Dryswch: Camgymeriad clerigol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Nia Cerys yn holi Craig Coleville.

Mae ffotograffydd wedi dweud bod swyddogion wedi rhoi gwybod iddo nad oedd yn ddinesydd Prydeinig er ei fod yn dod o Lanelwy.

Honnodd Craig Colville, 31 oed, fod y swyddogion wedi dweud na allai ei wraig, Crystal Levy, 29 oed o Ganada, aros yn y DG.

Dywedodd Asiantaeth y Ffiniau iddi gael ei gwrthod am nad oedd wedi rhoi tystiolaeth am ei henillion.

Ond cyfaddefodd fod camgymeriad clerigol o ran dinasyddiaeth Mr Colville.

Bydd y cwpl yn apelio.

Problemau

Priododd y ddau yn Llangollen yng Ngorffennaf 2012 cyn i'r problemau ddechrau.

Dywedodd Mr Colville iddo gael llythyr oedd yn dweud na allai Crystal aros yn y DG am nad oedd e'n ddinesydd Prydeinig.

"Yn lle cywiro'r sefyllfa mi benderfynon nhw fod angen i ni apelio.

"Yna mi gafon ni ddyddiad cyflwyno gwaith papur oedd yn anghywir ...

"Wedyn mi ddywedon nhw nad oedd modd apelio a neithiwr mi newidion nhw eu meddwl."

Cyfaddefodd fod y ddau wedi anghofio cynnwys slipiau cyflog oedd yn profi eu bod yn ennill mwy na £18,600 y flwyddyn.

'Hyderus'

"Ond rydym yn hyderus y byddwn yn ennill yr apêl."

Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth: "Roedd y gwaith papur gwreiddiol at Ms Levy yn cynnwys camgymeriad clerigol ynglŷn â dinasyddiaeth ei gŵr.

"Rydym yn sicr ei fod yn ddinesydd Prydeinig ac nid oedd y camgymeriad yn effeithio ar ein penderfyniad i wrthod caniatâd iddi aros yn hirach.

"Y rheswm am y penderfyniad oedd nad oedd yn cwrdd â'r anghenion ariannol."