Ras feicio fwyaf y DU yn dychwelyd
- Cyhoeddwyd

Bydd ras feicio broffesiynol fwyaf y DU - y Tour of Britain - yn ymweld â Chymru unwaith eto ym mis Medi.
Ond yn 2013 bydd yr ymweliad yn hirach nag erioed o'r blaen, gyda dau gymal yn dod i Gymru am y tro cyntaf.
Bydd pedwerydd cymal y ras yn gorffen yn Llanberis wrth droed yr Wyddfa ddydd Mercher, Medi 18, ac yna'r diwrnod canlynol bydd y beicwyr yn dechrau'r pumed cymal 177 cilomedr o Fachynlleth i Gaerffili.
Dyma'r tro cyntaf i'r ras - sy'n dathlu ei degfed pen-blwydd ers cael ei hatgyfodi fel ras fodern yn 2004 - ddod i ogledd Cymru.
Bydd Cymal 4 yn dechrau yn Stoke-on-Trent ac yn mynd drwy Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy a Gwynedd, gan orffen ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Enwau mawr
Dywedodd cyfarwyddwr y ras Mick Bennett: "Rydym yn falch iawn o fedru parhau ein perthynas gyda Llywodraeth Cymru gan ddod â dau gymal i Gymru eleni.
"Mae Cymal 4 yn rhoi'r cyfle i ni fynd â'r ras i ardaloedd newydd o Gymru gyda diweddglo yn ardal boblogaidd Eryri.
"Y diwrnod wedyn bydd y dorf yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Fynydd Caerffili ar gyfer cymal heriol iawn unwaith eto."
Yn y gorffennol mae rhai o dimau seiclo enwoca'r byd wedi bod yn rasio yn y Tour, gan gynnwys Team Sky, Garmin-Sharp ac Euskaltel-Euskadi.
Ymhlith yr enwau mawr sydd wedi cystadlu mae Bradley Wiggins, Mark Cavendish a Geraint Thomas.
'Tirlun dramatig'
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Roedd hi'n fraint i mi gyflwyno'r gwobrau ar ddiwedd Cymal 6 o'r ras y llynedd wrth i'r beicwyr orffen yr unig gymal Cymreig o flaen cefndir godidog Castell Caerffili.
"Bydd unrhyw un welodd ymateb y dorf anferth o Gymru wrth i'r cystadleuwyr daclo heriau tirlun Cymru yn sylweddoli pa mor wresog oedd croeso'r cyhoedd yng Nghymru i'r digwyddiad, ac yn ysu am weld mwy yn 2013.
"O'n safbwynt ni, rydym yn edrych ymlaen at annog hyd yn oed fwy o gefnogwyr y gamp yng Nghymru i ddilyn y ras wrth i dirlun dramatig gogledd Cymru gael ei ychwanegu i'r pair."
Bydd Tour of Britain 2013 yn dechrau yn Peebles yn Yr Alban ddydd Sul, Medi 15, ac yn gorffen yng nghanol Llundain ar Fedi 22.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2012
- Cyhoeddwyd15 Awst 2012