BBC Cymru Fyw

Ysgolion ynghau ddydd Gwener

Published
image copyrightNot Specified

Cyhoeddodd tua 200 o ysgolion eu bod ynghau ddydd Gwener oherwydd yr eira.

Roedd pob un o ysgolion Sir y Fflint wedi cau, yn ogystal â nifer yn Wrecsam a Phowys.

Mae pob sir ag eithrio Cyngor Sir Ynys Môn yn darparu rhestr ar eu gwefan o'r ysgolion sydd wedi cadarnhau eu bod ar gau o ganlyniad i'r tywydd. Isod mae cysylltiad i wefan pob cyngor gyda'r wybodaeth ddiweddara.

Mae rhai gwefannau yn Saesneg.

Cyngor Sir Abertawe

Y TYWYDD

Fe allwch chi weld y rhagolygon ar wefan tywydd BBC Cymru neu wrando ar y rhagolygon ar BBC Radio Cymru.

TEITHIO

Mae manylion hefyd am y sefyllfa ar y ffyrdd ar gael drwy wrando ar BBC Radio Cymru neu drwy'r wefan.