Cau rhan o'r M4 wedi damwain fore Gwener

  • Cyhoeddwyd

Cafodd dwy lôn ar yr M4 yn ne Cymru eu cau fore dydd Gwener yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn ardal Pencoed-Meisgyn.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar y ffordd ddwyreiniol, rhwng cyffyrdd 35 a 34, ychydig cyn 9:10am.

Cafodd Heddlu De Cymru, ynghyd â chrisiau tân am ambiwlans, eu galw i'r digwyddiad.

Bu'n rhaid torri un ddynes yn rhydd o'i char gan ddefnyddio offer arbennig. Cafodd ei chludo i'r ysbyty am driniaeth.

Roedd 'na broblemau traffig yn yr ardal yn sgil y ddamwain.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol