Digwyddiad paralympaidd mawr i Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae dinas Abertawe wedi cael ei dewis i gynnal Pencampwriaethau Ewropeaidd y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol ym mis Awst 2014.
Dyma fydd y tro cyntaf i'r bencampwriaeth gael ei chynnal unrhyw le yn y DU.
Y gobaith yw y bydd y digwyddiad yn manteisio ar effaith y Gemau Paralympaidd yn Llundain yn 2012.
Jon Morgan yw cyfarwyddwr Chwaraeon Anabledd Cymru, a dywedodd: "Rydym yn credu mai Cymru ac Abertawe yw'r llwyfan perffaith i gynnal cystadlaethau rhyngwladol fel hyn."
Bydd tua 600 o athletwyr o 40 o wledydd yn cystadlu yn y digwyddiad a fydd yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Abertawe.
'Gorchestion rhyfeddol'
Cafodd y Bencampwriaeth ddiwethaf ei chynnal yn haf 2012 yn Stadskanaal yn yr Iseldiroedd.
Bu 520 o athletwyr o 38 gwlad yn cymryd rhan yno a, dros y pum niwrnod o gystadlu, Rwsia ddaeth i frig y tabl medalau. Fe gafodd 14 record byd eu torri gan athletwyr yn ystod y gemau.
Mae Jon Morgan yn credu y bydd cynnal y digwydd yn hwb pellach i chwaraeon anabledd yng Nghymru.
"Fe fydd yn adeiladu ar orchestion rhyfeddol athletwyr o Gymru yn Llundain yn 2012, ac yn mynd â'n hagenda gwaddol ymlaen, ynghyd â rhaglenni cenedlaethol yr ydym wedi eu datblygu dros y deng mlynedd diwethaf.
"Rydym wedi ymrwymo i gynnal Pencampwriaeth Ewrop eithriadol y gall Abertawe a Chymru gyfan fod yn falch ohoni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2012
- Cyhoeddwyd30 Awst 2012