Dros £600,000 i wersylloedd yr Urdd
- Cyhoeddwyd

Bydd yr Urdd yn derbyn dros £620,000 o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer eu canolfannau preswyl yng Nghymru, yn unol â chyhoeddiad gan y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg, Leighton Andrews.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i adnewyddu a moderneiddio cyfleusterau yng nghanolfannau'r Urdd yng Nglan-Llyn a Llangrannog.
Gwnaeth y gweinidog y cyhoeddiad am y cyllid ychwanegol yn ystod Cynhadledd 'Hunaniaith' a oedd yn trafod dyfodol cymunedau Cymraeg.
Y gweinidog oedd prif siaradwr y digwyddiad pryd y cyflwynodd araith yn sôn am waith Llywodraeth Cymru i hyrwyddo'r Gymraeg yn y gymuned ac i greu cyfleoedd i bobl ifanc defnyddio'u Cymraeg y tu allan i'r dosbarth.
'Plant yw'r dyfodol'
Dywedodd Mr Andrews: "Un o brif negeseuon canlyniadau Cyfrifiad 2011 oedd mai yn nwylo ein plant a phobl ifanc y mae dyfodol yr iaith Gymraeg.
"Rydyn ni'n gwybod bod nifer y rhieni sy'n dewis anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cynyddu. Mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n cael digon o gyfleoedd i ddefnyddio'u Cymraeg y tu allan i ddrysau'r ysgol ac mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.
"Mae hyn yn wir am y rhai sy'n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Saesneg ac sydd angen y cyfle i ymarfer eu sgiliau ieithyddol a defnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth.
"Mae canolfannau'r Urdd yn cynnig yr union gyfle ac rwy'n falch ein bod ni'n gallu'u cefnogi trwy roi cyllid o dros £620,000 i sicrhau y bydd pobl ifanc yn parhau i fwynhau'r canolfannau poblogaidd hyn ac yn defnyddio'u Cymraeg wrth ymgymryd â gweithgareddau hamdden a hefyd yn gymdeithasol."
Dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones:
"Rydyn ni'n falch iawn o'r buddsoddiad hwn, ac yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am sicrhau ein bod ni'n gallu parhau i ddatblygu ein canolfannau preswyl.
"Mae ein canolfannau'n cynnig profiadau ffantastig i blant a phobl ifanc, ac yn llefydd gwych i ddod â'r iaith yn fyw".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012