Ymgyrch yn erbyn safle teithwyr yn 'cryfhau'
- Cyhoeddwyd

Mae trigolion sydd yn gwrthwynebu ail safle parhaol i deithwyr yn Llansamlet, Abertawe, yn dweud eu bod yn cryfhau eu hymgyrch wrth i gyfnod ymgynghori ddod i ben.
Mae unig safle'r ddinas, sydd hefyd yn Llansamlet, yn llawn ac mae angen i Gyngor Abertawe ddod o hyd i fwy o le.
Mae pum safle bosibl yn cael eu hystyried, gan gynnwys dau yng Ngorseinon ac eraill yn y Cocyd, Llansamlet a Phenderi.
Dywedodd y cyngor bod gan drigolion tan 31 Mawrth i gofnodi eu barnau.
'Cryfhau ymgyrch'
Mae'r awdurdod wedi dweud bod yna deuluoedd sipsiwn a theithwyr yn y ddinas sydd heb "gyfleusterau priodol".
Dywedodd Hilary Jenkins, cadeirydd Llansamlet Against Second Travellers' Site: "Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 31 Mawrth, ond oherwydd y Pasg y diwrnod gwaith olaf i gyflwyno ein barn yw 28 Mawrth.
"Byddwn yn cryfhau ein hymgyrch dros yr wythnos neu ddwy nesaf, yn ymweld â'r ardaloedd yn ward Llansamlet fydd yn cael eu heffeithio gan y cynlluniau ar gyfer ac yn gofyn i bobl i lofnodi ein deiseb.
"Rydyn ni wedi casglu mwy na 4,500 o lofnodion hyd yn hyn sydd yn cynrychioli dros 40% o etholwyr Llansamlet.
"Rydyn ni'n golygu cyflwyno'r ddeiseb i gyngor Abertawe ar 28 Mawrth, ac mae cyfarfod cabinet yn cael ei gynnal y diwrnod hwnnw."
Protestio
Dywedodd Mrs Jenkins bod y grŵp gweithredu wedi bod yn dosbarthu taflenni i fusnesau ar Barc Menter Abertawe a'u hannog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
"Mae'r safle yn Llansamlet yn anaddas fel safle i deithwyr," meddai.
"Mae yna nifer o broblemau yno gan gynnwys llinellau pŵer uwchben, pibellau nwy tan ddaear, hen byllau glo ac mae'r safle'n cefnu ar erddi cefn pobl leol."
Dros y penwythnos bu tua 300 i 400 o bobl yn protestio yn erbyn defnyddio'r lleoliadau yng Ngorseinon - Parc Melyn Mynach a Heol-y-Mynydd.
Dywedodd Cyngor Abertawe bod Llywodraeth Cymru wedi mynnu bod bob awdurdod lleol yng Nghymru yn edrych ar anghenion sipsiwn a theithwyr "fel rhan o'i asesiad o anghenion llety".
Dywedodd arweinydd y cyngor, David Phillips: "Mae'r cyngor am i'r cyhoedd chwarae rhan lawn yn y broses yma ac mae gan bobl tan ddiwedd mis Mawrth i roi eu barn.
"Does dim penderfyniadau wedi cael eu gwneud am y safle ac ni fydd penderfyniad yn cael ei wneud tan ddiwedd yr ymgynghoriad cyhoeddus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2011