Mewn lluniau: Eira yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Nid golygfa Nadoligaidd, ond gwesty Soughton Hall ger Yr Wyddgrug wythnos cyn y Pasg.

Roedd amodau gyrru yn anodd iawn yn Sir y Fflint fore Gwener.
Mae disgwyl i amodau gyrru anodd barhau ar draws y gogledd tan fore Sadwrn o leiaf.
Roedd eira trwm ar yr A541 ger Rhydymwyn yn gynnar ddydd Gwener.
Rhes y Cae ger Treffynnon yn Sir y Fflint.
Roedd coed yn disgyn yn broblem arall i yrwyr mewn rhai mannau.
Roedd trafferthion i loris ar gylchfan B&Q ar yr A483 yn Wrecsam.
Ci yn mwynhau ei hun ym Mryneglwys, Sir Ddinbych.
Y Ddraig Goch yn cyhwfan uwchben Llangollen fore Gwener.
Eira'n lluwchio ar fynydd Helygain yn Sir y Fflint.
Roedd traffig ar yr A483 ger Wrecsam yn stond fore Gwener am 6:37am.
Derek Roger dynnodd y llun yma o'i ardd ym Mwcle, Sir y Fflint.