Stockport 1-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Gyda nifer o gemau wedi eu gohirio yn yr adran, roedd gan Casnewydd gyfle gwych i gau'r bwlch ar y ceffylau blaen yn Uwchgynghrair Blue Square Bet brynhawn Sadwrn wrth deithio i Stockport.
Ond colli wnaeth yr Alltudion gydag un gôl yn ddigon i'w setlo hi.
Mae Lee Minshull wedi bod yn sgorio'n aml i Gasnewydd dros y misoedd diwethaf, ond sgorio i'r rwyd ei hun wnaeth Minshull wedi awr o'r gêm.
Doedd Casnewydd ddim yn haeddu dim yn yr hanner cyntaf gyda'r tîm cartref yn rheoli.
Ond wedi'r egwyl daeth Casnewydd yn ôl i mewn i'r gêm yn raddol gan greu mwy a mwy o gyfleoedd.
Roedd hi'n eironig felly mai dyna pryd ddaeth y gôl yn erbyn rhediad y chwarae.
Yr unig un o'r timau eraill sy'n agos i'r brig oedd yn chwarae ddydd Sadwrn oedd Kidderminster ar y brig, ac fe lwyddon nhw i gipio triphwynt i agor bwlch rhyngddyn nhw a Mansfield, Wrecsam a Chasnewydd sy'n ceisio'u dal.
Ond yr argyfwng i Gasnewydd nawr yw nifer y gemau sy'n rhaid eu chwarae cyn diwedd y tymor, sy'n golygu y bydd hi'n debygol y bydd rhaid iddyn nhw chwarae deirgwaith yr wythnos tan ddiwedd y tymor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2013