Rheolwr Stadiwm y Mileniwm yn ymddeol

  • Cyhoeddwyd
Gerry TomsFfynhonnell y llun, Welsh Rugby Union
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Gerry Toms yn rhoi'r ffidil yn y tô ym mis Mehefin

Wedi saith mlynedd yn y swydd bydd rheolwr Stadiwm y Mileniwm yn rhoi'r gorau iddi ym mis Mehefin.

Mae Undeb Rygbi Cymru eisoes wedi dechrau'r broses o chwilio am olynydd i Gerry Toms.

Mae'r cyn blismon yn edrych ymlaen at wylio gêm rygbi yn y stadiwm fel cefnogwr am y tro cyntaf.

Yn ystod ei gyfnod yn y swydd mae wedi goruchwylio Cwpan Rygbi'r Byd yn 2007, rowndiau terfynol Cwpan FA Lloegr a Chwpan Carling, ac fe welodd y Gemau Olympaidd yn dod i Gymru am y tro cyntaf yn 2012.

'Heriau'r dyfodol'

"Does dim dwywaith bod Stadiwm y Mileniwm yn un o brif ganolfannau chwaraeon y byd," meddai Mr Toms.

"Ers i'r stadiwm agor yn 1999 mae'r lle wedi cyrraedd y nod o ddod â dros 300 o ddigwyddiadau rhyngwladol o Gymru trwy gydweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd."

Mae'r stadiwm hefyd wedi cynnal cyngherddau gan enwau mawr fel Paul McCartney, a chyngerdd arbennig i godi arian i ddioddefwyr tsunami 2004.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Cymru yn codi tlws Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Stadiwm y Mileniwm yn gynharach yn y mis

Bydd Mr Toms yn rhoi'r gorau i'w swydd wedi Grand Prix Speedway Prydain ar Fehefin 1.

Ni fydd yn torri pob cysylltiad â'r stadiwm, ond yn hytrach yn canolbwyntio ar gyfleoedd yn ymwneud â diogelwch a rheolaeth o'r stadiwm.

"Rwy'n edrych ymlaen at yr heriau ddaw yn y dyfodol, ond yn bennaf at gael dychwelyd i'r stadiwm, eistedd mewn sedd a mwynhau gêm fel cefnogwr Cymru am y tro cyntaf," ychwanegodd.

'Anodd llenwi esgidiau'

Wrth i'r chwilio am olynydd ddechrau, diolchodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, i Mr Toms am ei gyfraniad.

"Wrth ymuno â'r stadiwm o'i safle fel pennaeth Heddlu De Cymru, fe ddaeth Gerry â golwg unigryw a phrofiad i'r rôl, ac fe fydd yn waith anodd llenwi ei esgidiau," meddai.

"Y stadiwm yw coron rygbi Cymru."

Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at dderbyn ceisiadau am y swydd gan bobl sydd am fod yn rhan o ddyfodol y stadiwm, gan gynnwys dau gyngerdd mawr yn yr haf, seremoni agoriadol Cwpan Rygbi 13 y Byd yn 2013, a Chwpan Rygbi'r Byd yn 2015.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol