Pro 12: Gleision yn colli i Treviso

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Alun Wyn Jones yn brwydro yn erbyn y Dreigiau

Treviso 26-17 Gleision

Brynhawn Sadwrn fe gollodd y Gleision i dîm o'r Eidal am y tro cyntaf erioed yng nghynghrair y Pro12.

Sgoriodd Dafydd Hewitt a Lou Reed geisiau i'r Gleision, ac fe giciodd Ceri Sweeney ddau drosiad a chic gosb.

Roedd y gêm yn agos tan y munudau olaf, ond yna roedd goruchafiaeth yr Eidalwyr yn y sgrym yn dechrau dangos.

Croesodd Alessandro Zanni am un cais i Treviso ac fe ddaeth cais cosb hefyd.

Ond fe gostiodd diffyg disgyblaeth i'r tîm o Gaerdydd wrth i Alberto Di Bernardo gicio pedair cic gosb i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Gweilch 52-19 Dreigiau Casnewydd Gwent

Roedd y Gweilch ben ac ysgwydd yn well na'r Dreigiau wrth sgorio saith cais o gymharu â dau'r ymwelwyr.

Croesodd Kahn Fotuali'i, Tom Habberfield, ac Ashley Beck cyn yr egwyl.

Sicrhaodd cais Tom Isaacs y pwynt bonws i'r Gweilch cyn i Dan Evans groesi am gais i'r Dreigiau.

Roedd ceisiau pellach i'r Gweilch gan Dan Biggar, Dmitri Arhip a Justin Tipuric gyda Toby Faletau yn cael cais cysur.

Daeth 13 pwynt o droed Dan Biggar.

Zebre 10-24 Scarlets

Mae'r Scarlets yn parhau yn y ras ar gyfer lle yng ngemau ail gyfle'r Pro12 ar ôl maeddu'r tim ar y gwaloed, Zebre.

Liam Williams a Johan Snyman sgoriodd y ddau gais i'r ymwelwyr yn Parma.

Ciciodd y maswr Owen Williams 14 pwynt.

Gorffwyswyd George North, Jonathan Davies a Ken Owens gan y Scarlets.

Straeon perthnasol