Chwaraewyr Wrecsam yn dathlu ennill Tlws FA Lloegr
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cefnogwyr Wrecsam yn dathlu

25 Mawrth 2013 Diweddarwyd 07:21 GMT

Hyd at £300,000, dyna bwysigrwydd ariannol ennill Tlws FA Lloegr i Glwb Pêl-Droed Wrecsam.

Mae'r clwb wedi bod trwy amseroedd anodd iawn dros y blynyddoedd diwetha', ond ar eu hymweliad cyntaf erioed â Wembley mi wnaeth y Dreigiau ennill Tlws FA Lloegr yn erbyn Grimsby ar giciau o'r smotyn.

Un gôl yr un oedd hi ar ôl y 90 munud ac amser ychwanegol.

Dafydd Gwynn oedd yng nghanol y cefnogwyr wedi'r gêm.