Streic glanhawyr trenau ar y gweill
- Cyhoeddwyd
Bydd streic 24 awr gan lanhawyr ar drenau gwmni Arriva yn cael ei chynnal yr wythnos hon oherwydd ffrae ynghylch eu cyflogau.
Bydd aelodau undeb yr RMT sy'n gweithio i gwmni Churchill sydd wedi eu contractio i lanhau trenau cwmni Arriva yn gweithredu'n ddiwydiannol ddydd Mercher.
Roedd aelodau'r undeb i fod i gynnal streic wrth i filoedd o bobl deithio i Gaerdydd i wylio gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn erbyn Lloegr ar Fawrth 16.
Bryd hynny pleidleisiodd naw o bob 10 o'r glanhawyr sy'n cael eu cyflogi gan gwmni Churchill i weithredu'n ddiwydiannol wedi i'r undeb gyhuddo'r contractwyr o wrthod cynnig codiad cyflog i'w haelodau.
Cafodd y streic honno ei gohirio am fod yr undeb wedi derbyn gwell cynnig.
Ond yn awr bydd streic yn cael ei chynnal ar ôl i Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Bob Crow, ddweud nad oedd y cynnig yn "cael gwared â'r pla o gyflog tlodi".
"Er gwaethaf ymdrechion ein trafodwyr nid yw'r undeb wedi llwyddo i dderbyn cynnig gan Churchill sy'n diogelu ein hamcanion canolog," meddai.
Ychwanegodd fod yr undeb wedi cytuno i gynnal trafodaethau gyda'r cwmni ar ddechrau'r wythnos a bod yn rhaid i'r cwmni gyflwyno cynnig "fydd yn dod â'r anghydfod hwn i ben".
Bydd y streic yn dechrau am 0.01 am fore Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2011
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2011