Tân: Symud gwastraff o dir
- Cyhoeddwyd

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn dechrau ar y gwaith o symud gwastraff a roddwyd ar dir cyngor wrth ymladd tân ym mis Ionawr.
Roedd y tân yn Nant-y-glo ym Mlaenau Gwent yn llosgi am fwy na 10 diwrnod bryd hynny ac roedd mwg o'r tân wedi achosi diflastod i'r rhai oedd yn byw yn yr ardal.
Gweithredwyr y safle sy'n gyfrifol am y gwastraff, ond gan nad yw'r gwastraff wedi cael ei symud, dywedodd yr Asiantaeth eu bod yn gweithredu "er mwyn atal unrhyw risg i drigolion lleol a'r amgylchedd".
Mae'r Asiantaeth wedi datgan na wnaeth perchennog safle A Lewis and Co dorri ei drwydded ar gyfer y swm o wastraff a storiwyd yn y depo adeg y tân ond maen nhw yn awr yn 'adolygu amodau' y drwydded ar y safle i sicrhau gwelliannau.
Yn ddiweddar mae rhai trigolion lleol, nad oedd am gael eu henwi, wedi dweud bod ganddyn nhw bryderon am y ffordd yr oedd y safle'n cael ei weithredu cyn y tân ac ynghylch pa bryd y bydd y gwastraff sy'n weddill yn cael ei glirio.
Yr wythnos diwethaf dywedodd Rhys Williams, yn siarad ar ran A Lewis and Co, wrth BBC Cymru nad oedd y cwmni yn gyfrifol am y gwastraff erbyn hyn, ac roedd y gwastraff nawr yn fwy drud i gael gwared arno gan ei fod yn wlyb.
Ychwanegodd bryd hynny fod y cwmni wedi cynnig defnyddio ei gerbydau i symud y gwastraff i leoliad arall er mwyn cael gwared arno.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2013