Lladrad arfog: Cyhuddo dyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n sy'n ymchwilio i ladrad arfog o siop sy'n gwerthu gwin yn Abertawe wedi arestio a chyhuddo dyn 20 oed o ladrata a bod â gwn ffug yn ei feddiant.
Bydd yn ymddangos gerbron ynadon Abertawe ddydd Llun.
Mae dau ddyn arall, 23 a 28 oed, gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Aeth dau ddyn i mewn i siop Dylan's yn ardal Sgeti tua chanol dydd, ddydd Sadwrn Chwefror 4 gan fygwth perchennog y siop gyda gwn, cyn dianc mewn fan gan ddwyn cannoedd o bunnoedd.
Ni chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu'r De ar 101 neu Daclo'r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol