Organau: Cytuno ar egwyddorion cyffredinol

  • Cyhoeddwyd
Cerdyn rhoi organauFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Gallai'r drefn newydd ddod i rym erbyn 2015

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad wedi cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Trawsblannu Dynol, gan godi pryderon am agweddau ar y Bil.

Byddai'r Bil yn golygu tybiaeth fod pawb, os nad ydyn nhw'n gwrthwynebu, yn fodlon rhoi eu horganau ar ôl marw.

Os bydd ACau yn ei gymeradwyo, gallai'r drefn newydd ddod i rym erbyn 2015.

Ond wrth gytuno ar yr egwyddorion cyffredinol, pwysleisiodd y pwyllgor, ar ôl wythnosau o wrando ar dystiolaeth, na fyddai'r Bil ynddo'i hun yn ddigon i gynyddu'r gyfradd rhoi organau yng Nghymru ond byddai'n "un elfen o gyfres o fentrau, gan gynnwys addysgu pobl a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd" am y mater hwn.

Cododd y Pwyllgor bryderon am agweddau eraill ar y Bil hefyd, gan gynnwys pryderon ynghylch cydsyniad ar gyfer rhoi organau, a'r lefelau o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymysg y cyhoedd sy'n angenrheidiol i sicrhau bod cydsyniad tybiedig yn ddichonadwy.

Rôl y teulu

Galwodd y Pwyllgor am ragor o eglurder am rôl y teulu a ffrindiau mewn perthynas â chydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau.

Mae'r Gweinidog Iechyd newydd wedi dweud ei fod yn benderfynol o sicrhau fod deddfwriaeth newydd ar roi organau yng Nghymru yn derbyn sêl bendith.

Ond yn ôl Mark Drakeford mi fydd e'n ceisio cryfhau'r mesur i wneud yn siŵr fod rôl y teulu yn glir a bod y byd iechyd ar dir cyfreithiol cadarn.

Dywedodd Vaughan Gething AC, Cadeirydd Dros Dro'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, "Mae'r broses o edrych ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) wedi bod yn un anodd a heriol ond rydym wedi cytuno, drwy fwyafrif clir, y dylai fynd ymlaen at gyfnod nesaf y broses ddeddfu.

"Mae gan y Pwyllgor bryderon sylweddol am sut y mae'r materion o gydsyniad wedi cael eu nodi a'u hegluro. Yn arbennig, rydym yn parhau i bryderu am rôl y teulu a ffrindiau.

"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i nodi ei safbwynt mewn ffordd glir a chyson o hyn ymlaen. Os na fydd yn glir ac yn gyson, mae perygl gwirioneddol na fydd gan y cyhoedd hyder mewn system o gydsyniad tybiedig.

"Mae'r un mor bwysig bod staff meddygol yn cael gwybodaeth eglur gan mai nhw fydd yn ymdrin â'r sefyllfaoedd anodd hyn".

Bydd ACau yn pleidleisio ar egwyddorion cyffredinol y bil ym mis Ebrill.

Hwn yw'r cam cyntaf cyn i'r bil ddod yn ddeddf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol