Cwmni preifat i gynnal y gwasanaeth achub o 2015 ymlaen
- Cyhoeddwyd

Cwmni preifat o America fydd yn rhedeg gwasanaeth chwilio ac achub y Llu Awyr o 2015 ymlaen, gan symud y gwasanaeth o'r Fali i Gaernarfon.
Mae cytundeb 10 mlynedd cwmni Bristow Group, sydd wedi ei leoli yn Texas, yn werth £1.6 biliwn.
Mae datganiad Adran Drafnidiaeth Llywodraeth Prydain ddydd Mawrth yn sôn bod bwriad i agor safle newydd ym Maes Awyr Caernarfon.
Ers degawdau mae hofrenyddion melyn enwog y Sea King wedi bod yn safle'r awyrlu yn Y Fali ar Ynys Môn.
Mae tua 100 yn gweithio i wasanaeth chwilio ac achub y Llu Awyr yn Y Fali.
Kate Crockett yn holi Aelod Seneddol Ynys Môn Albert Owen
Mae'r datganiad yn awgrymu y bydd hofrenyddion modern y Sikorsky S-92 a'r AgustaWestland 189 yn disodli'r hofrenyddion.
Ac mae'r cytundeb yn golygu diwedd ar 70 mlynedd o wasanaeth chwilio ac achub yr Awyrlu a'r Llynges.
Adleoli
Yn sgil y cyhoeddiad fe fydd y gwasanaeth achub o ogledd Dyfnaint yn Chivenor yn dod i ben ac yn cael ei symud i Sain Tathan.
Fe fydd dau hofrennydd yno a dau arall yn Newquay, Cernyw.
Mae gwasanaeth Chivenor wedi bod yn helpu rhai mewn trafferth yn ne Cymru ers blynyddoedd.
Yn 2017 fe fydd cysylltiad yr Awyrlu a'r Llynges yn dod i ben yn llwyr a chytundeb sifil yn dod i rym.
Mae llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth wedi dweud: "Er y bydd safle'r Llu Awyr yn parhau yn Y Fali, fe fydd uned chwilio ac achub newydd yng Nghaernarfon.
"Fe fydd y gwasanaeth yma yn dod i ben yn Y Fali ac yn adleoli i Gaernarfon."
Wrth ymateb, mae Albert Owen, AS Llafur Ynys Môn, wedi dweud bod y cyhoeddiad yn gam negyddol.
"Mae 'na lot o arian wedi ei fuddsoddi yn Y Fali yn ei wneud yn ganolfan ragoriaeth.
"Mae hwn yn gam i arbed arian ac yn gamblo gyda bywydau."
Eisoes mae cwmni Bristow wedi bod yn paratoi criwiau ar gyfer dyletswyddau Gwylwyr y Glannau yn Sumburgh yn Shetland a Stornoway ar Ynysoedd Gorllewin Yr Alban.
Mae gan y Llu Awyr 10 canolfan Gwylwyr y Glannau a chwilio ac achub ar draws y DU.
Yn ôl y cytundeb, fe fydd dau hofrennydd Sikorsky wedi eu lleoli mewn pum safle, Stornoway a Sumburgh, a safleoedd newydd yng Nghaernarfon, Newquay a Humberside.
Hyder yn y cwmni
Bydd y 10 hofrennydd AgustaWestland rhwng safleoedd yn Lee-on-Solent a Maes Awyr Prestwick a safleoedd newydd yn Sain Tathan, Inverness a Manston.
Dywedodd Alun Cairns, AS Bro Morgannwg, fod y cyhoeddiad yn "newyddion gwych" i Sain Tathan.
"Mae'n hwb bellach i economi'r ardal.
"Bydd yn bwysig gweithio o fewn yr ardal leol i fodloni unrhyw bryderon.
Roedd 'na bryder ar hyd arfordir y de gyda'r bygythiad i Chivenor ond dwi'n falch bod y llywodraeth wedi ymateb yn bositif a sefydlu canolfan yn y Fro."
Dylan Jones yn holi'r cynghorydd Ian Johnson
Dywedodd Patrick McLoughlin, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth San Steffan, fod y gwasanaeth chwilio ac achub yn chwarae rhan allweddol wrth achub bywydau a chynnig cefnogaeth i bobl mewn trafferth ar dir a môr.
"Gyda 24 blynedd o brofiad mewn gwasanaeth hofrenyddion chwilio ac achub yn y DU fe all y cyhoedd gael hyder gwirioneddol yn Bristow a'u gallu i gynnig gwasanaeth o'r radd flaenaf gyda'r hofrenyddion modern," meddai.
Fe fydd yr holl safleoedd yn wasanaethau 24 awr y dydd.
Gwella 20%
Y gobaith yw y bydd amser hedfan i ddigwyddiadau yn gwella 20% o 23 i 19 munud.
Mae'r Adran Drafnidiaeth am weld hofrenyddion yn gallu gwasanaethu drwy'r DU ac ym mhob tywydd.
Yn ôl gwefan Bristow, mae eu hofrenyddion wedi achub dros 7,000 o bobl yn y DU eisoes.
Maen nhw hefyd yn gwasanaethu yn Yr Iseldiroedd, Norwy, Trinidad a Tobago, Awstralia, Rwsia, Brasil a Chanada.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2010
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2010
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2010