Southport 0-2 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed CasnewyddFfynhonnell y llun, Other

Fe wnaeth Casnewydd gryfhau eu safle yn y Blue Square Bet ar ôl ennill oddi-cartre' yn erbyn Southport nos Fawrth.

Goliau gan Aaron O'Connor a Christian Jolley wedi 10 a 34 munud sicrhaodd y fuddugoliaeth yn Southport.

Maen nhw yn parhau yn bedwerydd yn y tabl, ond gyda phedair gêm mewn llaw ar Kidderminster sydd ar y brig.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol