Gohirio streic glanhawyr trenau

  • Cyhoeddwyd

Mae streic 24 awr glanhawyr trenau cwmni Arriva oedd i fod i gael ei chynnal yr wythnos hon wedi ei gohirio.

Roedd y streic ddydd Mercher oherwydd ffrae am gyflogau ond mae undeb RMT wedi ei gohirio am fod pleidlais yn cael ei chynnal.

Mae aelodau yn gweithio i gwmni Churchill.

Roedd aelodau i fod i gynnal streic wrth i filoedd deithio i Gaerdydd i wylio gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr ar Fawrth 16.

Bryd hynny pleidleisiodd naw o bob 10 o'r glanhawyr i weithredu'n ddiwydiannol wedi i'r undeb gyhuddo'r contractwyr o wrthod cynnig codiad cyflog i'w haelodau.

Cafodd y streic ei gohirio am fod yr undeb wedi derbyn gwell cynnig.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol