Arian Ewrop: Llai o doriadau
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd llai o doriadau yng nghyllid yr Undeb Ewropeaidd i Gymru.
Ar adeg cytuno cyllideb yr UE ym mis Chwefror dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ofni y gallai'r cytundeb olygu gostyngiad o £400 miliwn ar gyfer Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y toriad yn £60 miliwn.
Mewn llythyr i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, dywedodd David Cameron fod ei benderfyniad "yn darparu cronfeydd i Gymru fyddai'n arwain at dwf cadarn a chynaliadwy ..."
£2.1 biliwn
Dywedodd Mr Jones ei fod yn siomedig fod llai o ariannu ond ei fod "yn croesawu'r penderfyniad i gyfyngu ar y toriadau".
Mae rhannau tlotaf Cymru yn derbyn dros £2.1 biliwn rhwng 2014 a 2020 - toriad o 5% o'i gymharu â'r saith mlynedd blaenorol.
Fodd bynnag, mae hyn yn cynnwys £375 milwn ychwanegol oherwydd ailddyrannu Llywodraeth y DU o'i gymharu â'r swm sylfaenol y byddai wedi ei dderbyn o dan y fformiwla yr UE.
Yn ôl yr ASE Llafur, Derek Vaughan, byddai'r cynlluniau gwreiddiol wedi golygu toriad cyllideb o 22% ar gyfer ardaloedd fel Gorllewin Cymru a'r Cymoedd.
Dywedodd Plaid Cymru y byddai effaith y toriadau'n "ysgytwol ar gymunedau tlota' Cymru" tra dywedodd yr SNP fod y cyhoeddiad yn "fuddugoliaeth i synnwyr cyffredin".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2011