Gorffen chwilio am April
- Cyhoeddwyd
Adroddiad Craig Duggan
Mae'n ymddangos y gallai'r gwaith o chwilio am April Jones o Fachynlleth ddechrau dirwyn i ben dros yr wythnosau nesa'.
Cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys y bydden nhw'n archwilio ardaloedd penodol ym mis Ebrill, gyda'r nod o gwblhau pob un o'r archwiliadau hynny erbyn diwedd y mis.
Ers dechrau mis Hydref mae timau arbenigol wedi bod yn cydweithio gyda lluoedd eraill o'r DU i archwilio'r ardal o gwmpas Machynlleth wrth geisio dod o hyd i'r ferch bump oed.
Mae nifer o adnoddau wedi'u defnyddio, gan gynnwys unedau tanddwr yr heddlu, swyddogion sy'n arbenigo mewn archwilio mannau cyfyng, timau achub trefol, gwylwyr y glannau a thimau achub mynydd, ynghyd â chŵn arbenigol.
Tirwedd anodd
Yn wythnosol mae 17 o dimau achub wedi bod yn rhan o'r gwaith o archwilio ardal 60 cilometr sgwâr, sy'n cynnwys 300 ardal benodol.
Yn ôl yr heddlu, mae rhan helaeth o'r ardal wedi bod yn anodd eu harchwilio oherwydd natur y tirwedd gyda chymaint o fynydd-dir, ceunentydd, rhaeadrau a nentydd.
Roedd Heddlu Dyfed Powys wedi ymrwymo i chwilio nes bod pob trywydd o'r ymchwiliad wedi cael sylw llawn.
Fydd 'na ddim chwilio'r wythnos hon oherwydd y tywydd, na chwaith dros wyliau'r Pasg.
Yn ôl yr heddlu, bydd tîm o swyddogion arbenigol ar gael i ymateb i unrhyw wybodaeth newydd fydd yn dod i law fel rhan o'r ymchwiliad.
'Haeddu clod'
Dywedodd Maer Machynlleth, Gareth Jones, ei fod eisiau diolch i'r cannoedd o blismyn ac aelodau timau achub o ar draws y DU am eu cefnogaeth dros y misoedd diwethaf.
"Nid yn unig maen nhw wedi gweithio'n ddiflino mewn amodau ofnadwy, a hynny am reswm torcalonnus, ond maent wedi dangos cymaint o gyfeillgarwch a chefnogaeth i bobl y dre' pan oedd fwya' angen cymorth ac wynebau cyfeillgar," meddai Mr Jones.
"Mae pob un ohonynt yn haeddu clod ac mae pobl Dyffryn Dyfi yn hynod ddiolchgar iddynt.
"Ond mae'n rhaid cofio bod y gwaith chwilio yn parhau. Mae'n meddyliau ni'n dal gyda Coral, Paul a'r teulu ac rydym ni fel ardal yn parhau'n gefnogol iawn i'n swyddogion lleol wrth iddynt barhau â'u gwaith."
Gohirio achos
Cafodd achos y dyn sydd wedi ei gyhuddo o gipio a llofruddio April Jones ei ohirio fis diwetha'.
Roedd disgwyl i'r achos yn erbyn Mark Bridger, 47 oed, gychwyn yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar Chwefror 25.
Ond fe ohiriodd y Barnwr Mr Ustus Griffith-Williams yr achos ar gais yr amddiffyniad.
Mae Mr Bridger yn gwadu'r cyhuddiad o gipio a llofruddio'r ferch o Fachynlleth.
Mae o hefyd yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder wedi diflaniad April ym mis Hydref y llynedd.
Fe fydd yr achos yn cychwyn ar Ebrill 29.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2012