Merch 15 oed oedd ar goll wedi'i darganfod yn ddiogel

Mae merch 15 oed, o Gwmbrân, oedd ar goll wedi cael ei darganfod yn fyw ac yn iach.

Roedd Heddlu Gwent wedi apelio am wybodaeth ynglyn â Nia Rogers wedi iddi ddiflannu ar ôl gadael ei chartre' yn Llys Trannon, Thornhill, am 12:40pm ddydd Sadwrn.

Oherwydd ei hoedran roedd swyddogion yn dweud eu bod yn pryderu am ei diogelwch.

Ond daeth cadarnhad ddydd Mercher ei bod wedi cael ei darganfod yn ddiogel.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.