Canslo gorymdaith Dydd Gwener y Groglith yn Wrecsam

Cofnodi Dydd Gwener y Groglith Image copyright Mission Wrexham
Image caption Roedd yr orymdaith wedi bwriadu dod i ben yng nghanolfan siopa Dôl yr Eryrod

Mae Eglwysi Unedig Wrecsam wedi gorfod canslo gorymdaith drwy strydoedd y dref Dydd Gwener y Groglith.

Roedd y grŵp wedi trefnu gorymdaith a chyflwyniadau dramatig ar strydoedd y dref.

Ond o ganlyniad i'r tywydd gwael yn y gogledd ddwyrain dros yr wythnos diwethaf fydd y digwyddiad ddim yn cael ei gynnal.

Roedd aelodau o eglwysi lleol a Chenhadaeth Ieuenctid Cymru wedi bwriadu cymryd rhan.

Roedd yr orymdaith i fod i ddechrau o Eglwys y Drindod am 10.30am, ac ymweld â nifer o leoedd o amgylch y dref cyn gorffen yng nghanolfan Dôl Yr Eryrod am 11am.

Cafodd archwiliad o leoliadau canol y dref ei gynnal cyn penderfynu canslo'r digwyddiad.

Roedd Art Ellinson, un o drefnwyr yr orymdaith, wedi gobeithio y byddai'r orymdaith yn cael effaith ar y bobl oedd yn ei gweld.

"Dwi'n gobeithio y bydd yn peri iddyn nhw oedi a meddwl am y ffaith mai nad dim ond diwrnod ar gyfer siopa yw hi," meddai.

"Byddwn wrth fy modd petai'n golygu bod rhai pobl yn adnewyddu eu perthynas â Duw."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.