Ffyrdd ynghau oherwydd eira

  • Cyhoeddwyd
B4501 rhwng Cerriydrudion a Bylchau ger Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig
Disgrifiad o’r llun,
B4501 rhwng Cerriydrudion a Bylchau ger Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig

Mae eira'n achosi problemau i yrwyr a nifer o ffyrdd yn parhau ynghau yng ngogledd a chanolbarth Cymru.

Gan fod y tymheredd yn isel dyw'r eira ddim yn dadmer yn gyflym.

Am 5.15pm hon oedd y sefyllfa:

A4086 ynghau i'r ddau gyfeiriad oherwydd eira rhwng Ffordd y Farchnad, Llanberis a'r A498 (Pen-y-pas);

B4391 Ffordd Mynydd y Berwyn ynghau i'r ddau gyfeiriad oherwydd eira rhwng y B4403 (Y Bala) a Llangynog;

A542 Bwlch yr Oernant wedi ailagor rhwng A539 Ffordd y Felin (Llangollen) a'r A5104 (Llandegla) ond angen bod yn ofalus;

A543 Ffordd Mynydd Hiraethog ynghau rhwng y B5382 (Dinbych) a'r A544 (Bylchau);

B4355 ynghau i'r ddau gyfeiriad oherwydd eira rhwng yr A483 (Dolfor) a Ffordd y Gorllewin (Trefyclo);

B4520 ynghau oherwydd eira rhwng yr A483 Ffordd y Gorllewin (Llanfair ym Muallt) a'r B4519 (Capel Dyffryn Honddu);

A488 ynghau i'r ddau gyfeiriad oherwydd eira rhwng B4368 (Clun) a'r A4113 (Trefyclo).