Lladrad banc: Apêl am dystion yng Nghyffordd Llandudno

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion ar ôl lladrad banc yng Nghyffordd Llandudno brynhawn Mawrth.

Yn ôl Heddlu'r Gogledd cerddodd dyn i mewn i Fanc Barclays ar Ffordd Conwy yn y dref tua 2.30pm.

Dywed yr heddlu mai'r gred yw bod y dyn yn dal dryll.

Dihangodd y dyn gyda swm o arian parod, sydd heb ei ddatgelu, i gyfeiriad tafarn y Maelgwyn sydd gyferbyn y banc.

Dywed yr heddlu na chafodd unrhyw un eu hanafu.

Disgrifir y dyn fel dyn tenau 5 troedfedd ac 8 modfedd o daldra ac yn gwisgo tracwisg glas tywyll, het las oedd yn gorchuddio ei glustiau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol