Carbon monocsid yn gwenwyno teulu
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru'n annog y cyhoedd i sicrhau bod unrhyw offer nwy yn eu cartrefi yn gweithio'n ddiogel wedi i deulu o bump gael eu gwenwyno.
Cafodd criwiau o Rydaman eu galw i gartre' yn Y Betws nos Lun ar ôl i larwm carbon monocsid y tŷ ddechrau canu.
Aethpwyd â dau oedolyn, dau o blant o dan bedair oed a baban chwe mis oed i'r ysbyty.
Cadarnhawyd eu bod i gyd yn diodde' o symptomau gwenwyn carbon monocsid.
'Peryglon'
Cafodd bwyler nwy'r tŷ ei ynysu o ran diogelwch.
Dywedodd Mark Davies, o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Mae'r digwyddiad yma'n tynnu ein sylw at beryglon carbon monocsid.
"Yn ffodus, roedd gan y teulu yma larwm carbon monocsid a ganodd mewn pryd i'w hatal rhag cael eu niweidio'n ddifrifol.
"Does dim modd pwysleisio pa mor bwysig yw cael larwm carbon monocsid a sicrhau bod eich hoffer nwy yn cael ei archwilio yn rheolaidd."
Ychwanegodd Jason Cadman, aelod arall o'r gwasanaeth: "Roedd y bwyler 'combi' yn y digwyddiad hwn llai na thair blwydd oed.
"Mae'n hollbwysig peidio bod yn esgeulus, hyd yn oed gyda bwyleri newydd, gan fod y digwyddiad yma'n profi eu bod yn gallu bod yn fygythiad."
Yn gwella
Mae'r bwyler dan sylw wedi cael ei dynnu oddi yno bellach ac mae'r teulu yn gwella.
Yn y cyfamser, cafodd pâr oedrannus o Langollen eu gwenwyno wedi problem system awyru eu cartre' yn sgil eira trwm.
Roedd eira wedi mynd i mewn i sawl fent yn y tŷ ar Fwlch yr Oernant ddydd Sadwrn.
Mae'r cwpl yn gwella erbyn hyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2012