Protest yn erbyn cau uned gofal arbenigol i fabanod yn Llwynhelyg

  • Cyhoeddwyd
Logo Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r bwrdd am ganoli'r gwasanaeth arbenigol i fabanod yn Ysbyty Glangwili Caerfyrddin

Mae disgwyl i nifer o brotestwyr ymgasglu y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd i wrthwynebu cynlluniau'r bwrdd iechyd lleol ynglŷn â chau uned arbenigol yno.

O dan gynlluniau dadleuol i ad-drefnu gwasanaethau iechyd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru bwriad Bwrdd Iechyd Hywel Dda yw cau'r Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Llwynhelyg.

Mae ymhlith nifer o argymhellion.

Ond mae 'na deimladau cryf yn yr ardal na ddylai'r uned gau.

O ran y gofal cymhleth i fabanod fe fyddai'n cael ei ganoli yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

Fe fydd y brotest o flaen yr ysbyty rhwng 10am a 2pm ddydd Iau.

Ar hyn o bryd mae 'na un uned gofal newydd-anedig lefel un yng Nglangwili a Llwynhelyg, y gofal sylfaenol o ofal ac mae 'na uned ym Mronglais, Aberystwyth, o dan arweiniad nyrsys.

Taith dwy awr

Mae babanod sydd angen gofal arbenigol o fewn y bwrdd iechyd yn cael eu hanfon i Ysbyty Singleton yn Abertawe lle mae'r gofal yn un lefel 3.

Mae hyn yn gallu bod hyd at ddwy awr o daith, 50 milltir, i rai cleifion.

Y bwriad fyddai sefydlu uned lefel dau yng Nglangwili a gwella'r gwasanaeth yn yr ardal a lleihau'r amser teithio i Abertawe.Mae nifer o ymgyrchoedd lleol wedi brwydro i geisio amddiffyn y gwasanaethau sydd o dan fygythiad o dan gynlluniau'r bwrdd iechyd.

Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Hywel Dda gyfarfod ar Ionawr 15 i wneud eu hargymhellion terfynol ar gynlluniau eang i ad-drefnu gwasanaethau iechyd yn yr ardal.

Yn ôl y bwrdd iechyd, fe fydd yr argymhellion yn arwain at "ofal iechyd o'r radd flaenaf i'r boblogaeth leol, nawr ac yn y dyfodol" ac y bydd yn cefnogi'r ymdrech i ofalu am bobl yn eu cartrefi eu hunain a sicrhau fod ysbytai mewn gwell sefyllfa i ddelio â'r cleifion mwya' sâl.

Ychwanegodd y bwrdd iechyd na fyddai'r newidiadau yn digwydd tan y bydd yn ddiogel i'w cyflwyno.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol