Ashley Williams yn annog Cymru i gadw Chris Coleman

  • Cyhoeddwyd
Ashley WilliamsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Capten Cymru, Ashley Williams, am weld Chris Coleman yn parhau wrth y llyw

Mae capten tîm pêl-droed Cymru, Ashley Williams, wedi dweud y byddai'n "wallgo'" cael gwared ar y rheolwr Chris Coleman ar ôl ymgyrch Cwpan y Byd 2014.

Mae gan Coleman gytundeb gyda Chymdeithas Bêl-Droed Cymru tan haf 2014.

Ond mae Williams am weld Coleman yn arwain Cymru i ymgyrch Euro 2016.

Cafodd Coleman ei benodi fel rheolwr Cymru wedi marwolaeth sydyn Gary Speed.

Dywedodd Williams, ar ôl i Gymru golli o 1-2 yn erbyn Croatia nos Fawrth yn Stadiwm Liberty, Abertawe, fod ei reolwr yn "gwneud gwaith da".

'Calonogol'

"Mae o wedi cael cychwyn anodd o feddwl am yr amgylchiadau ar gychwyn ei swydd," meddai Williams.

"Gallwn weld ein bod wedi diodde' ond mae'r cyfarfodydd diwethaf wedi bod yn wych.

"Fe welwch chi bethau yn troi yn ôl i'r hyn yr oedd o dan Gary Speed.

"Mae hynny yn siŵr o fod yn galonogol."

Colli oedd hanes Cymru yn y pedair gêm gyntaf o dan arweiniad Coleman, gan gynnwys colli 6-1 oddi cartref yn erbyn Serbia yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

Ond mae'r tîm wedi gwella o ran perfformiad ac mae'r canlyniadau yn dangos hynny hefyd.

Roedd y tîm cenedlaethol o fewn 13 munud i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Croatia nos Fawrth cyn ildio dwy gôl hwyr.

'Hyder'

Eisoes mae cyn-reolwr Cymru, Terry Yorath, wedi dweud ei fod yn credu bod Coleman yn haeddu cytundeb newydd i arwain y garfan drwy'r ymgyrch nesaf.

Mae Williams yn credu bod Coleman wedi dechrau dylanwadu ar y garfan.

"Fe fyddai'n wallgo' a alla i ddim credu unrhyw un sy'n siarad am newid rheolwr nawr.

"Rydym yn gwybod ein bod yn gwneud cynnydd a hyder...

"Rydym wedi gwneud be allen ni ac fe allwn ni fod yn hyderus gyda'r ddwy gêm ddiwethaf."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol