Ffyrdd yn dal ynghau oherwydd eira

  • Cyhoeddwyd
Tractor yn clirio eira
Disgrifiad o’r llun,
Mae nifer o ffyrdd gwledig yn dal wedi cau ym Mhowys, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Chonwy

Mae eira'n dal i achosi problemau i yrwyr ac mae nifer o ffyrdd yn parhau ar gau yng ngogledd a chanolbarth Cymru.

Gan fod y tymheredd yn isel dyw'r eira ddim yn dadmer yn gyflym.

Mae nifer o ffyrdd gwledig yn dal ynghau ym Mhowys, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Chonwy.

Mae ffordd yr A4086 ynghau i'r ddau gyfeiriad oherwydd eira rhwng Llanberis a'r A498 (Pen-y-pas).

Pryderon

Mae A543 Ffordd Mynydd Hiraethog ynghau rhwng y B5382 (Dinbych) a'r A544 (Bylchau) ac mae'r B4391 Ffordd Mynydd y Berwyn ynghau i'r ddau gyfeiriad oherwydd eira rhwng y B4403 (Y Bala) a Llangynog.

Erbyn hyn mae'r A542 Bwlch yr Oernant wedi ailagor ar gyfer cerbydau gyriant pedair olwyn ond mae angen bod yn ofalus.

Ym Mhowys mae'r B4355 yn dal ynghau i'r ddau gyfeiriad oherwydd eira rhwng yr A483 (Dolfor) a Ffordd y Gorllewin (Trefyclo).

Yn Wrecsam mae fan sydd wedi cael ei ddal yn yr eira yn rhwystro traffig rhag teithio ar hyd Stryd y Bydden yn New Broughton rhwng Ffordd Bersham a ffordd yr A525.

Dywed Cyngor Sir y Fflint fod rhai lluwchfeydd chwe metr (20 troedfedd) o uchder wedi ffurfio yn y sir.

Ond yn ôl y cyngor mae pob maes parcio yn nhrefi'r sir ar agor ac fe fyddai marchnad Treffynnon yn cael ei gynnal ddydd Iau.

Yn ôl Cyngor Sir Dinbych mae lluwchfeydd yn ail ffurfio dros ffyrdd gwledig sydd wedi cael eu clirio.

Mae rhannau o ganol trefi Llangollen a Chorwen ar gau i'r cyhoedd oherwydd pryderon ynghylch eira yn cwympo oddi ar doi adeiladu yno.