BBC Cymru Fyw

Wrecsam angen gwirfoddolwyr i glirio eira o'r Cae Ras

Published
image copyrightGetty Images
image captionWrecsam oedd yn fuddugol yn Wembley ac yn codi Tlws FA Lloegr ddydd Sul diwethaf

Mae Clwb Pêl-Droed Wrecsam yn chwilio am wirfoddolwyr i glirio eira oddi ar y Cae Ras cyn gêm nesaf y clwb ddydd Llun.

Mae Wrecsam i fod herio Macclesfield am 3pm Dydd Llun Y Pasg.

Ond mae 'na amheuon a fydd y gêm yn cael ei chynnal yn sgil yr eira trwm sydd wedi disgyn ar y maes yn ystod y dyddiau diwethaf.

Dywed y clwb ei fod yn debygol na fydd Eisteddle Prifysgol Glyndŵr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y gêm ond bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ddydd Sul.

Yn ôl y clwb mae angen clirio'r eisteddfeydd ar ochr y cae i'w gwneud yn ddiogel ar gyfer cefnogwyr y ddau dîm.

Tlws FA

Ond mae hefyd angen clirio'r cae yn ôl datganiad ar wefan y Dreigiau.

image copyrightCLWB PêL-DROED WRECSAM
image captionMae cryn dipyn o eira ar y Cae Ras

Mae'r clwb yn gofyn i bob gwirfoddolwyr ddod â berfa a rhaw i helpu wneud y gwaith caib a rhaw ddydd Gwener a dydd Sul.

Dydd Sul diwethaf enillodd Wrecsam Tlws FA Lloegr ar eu hymweliad cyntaf â Wembley drwy guro Grimsby ar giciau o'r smotyn 4-1 ar ddiwedd gêm gyfartal 1-1.

Mae ennill y Tlws wedi rhoi hwb i obeithion Wrecsam o ennill dyrchafiad i'r gynghrair bêl-droed.

Mae Wrecsam yn drydydd yn Uwchgynghrair Blue Square Bet ar hyn o bryd.

Bydd y clwb yn chwarae oddi cartref yn erbyn Hyde am 3pm ddydd Sadwrn.

Straeon perthnasol

  • Cefnogwyr Wrecsam yn gorfoleddu