Y Gleision yn ystyried cael cae artiffisial ym Mharc Yr Arfau
- Cyhoeddwyd

Mae clwb rygbi Y Gleision wedi cadarnhau eu bod nhw'n ystyried gosod cae artiffisial ar Barc Yr Arfau ar gyfer y tymor nesaf.
Mae'r rhanbarth wedi cael trafferthion efo cyflwr y maes ar adegau yn ystod y tymor yma.
Fe wnaeth Y Gleision symud yn ôl i Barc Yr Arfau ar ddechrau'r tymor ar ôl chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn 2009.
Mae 'na gae artiffisial gan Y Saracens.
Y Gleision oedd yr ymwelwyr i chwarae'r gêm gyntaf rhwng dau dîm rygbi'r undeb ar gae artiffisial ym Mhrydain ym mis Ionawr.
Fe wnaeth y cae argraff ar y rhanbarth o Gymru.
"Mae 'na gwpl o opsiynau ganddon ni," meddai Gwydion Griffiths, un o swyddogion Y Gleision.
Gwelliannau
"Dydi'r maes ddim yn y cyflwr gorau a dydi'r tywydd dros y gaeaf ddim wedi bod yn help.
"Rydan ni'n edrych ar sawl opsiwn ar gyfer y tymor nesaf, gosod gwair newydd, cyfuniad o wair a wyneb artiffisial neu wyneb gwbl artiffisial.
"Fe fyddai hyn yn rhywbeth gwbl newydd i rygbi Cymru er bod Y Saracens wedi gosod un yn ystod y tymor.
"Rydym yn trafod ac edrych ar hyn o bryd ar gost yr opsiynnau.
"Rydym yn ffyddiog y bydd gwelliannau i'r cae yn cael ei wneud dros yr haf ond allwn ni ddim cadarnhau pa fath o wyneb fydd 'na."
Dywedodd Brynmor Williams, cyn-fewnwr Clwb Caerdydd, Cymru a'r Llewod, ei fod yn croesawu'r syniad.
Mae ei ddau fab, Lloyd a Tom Williams, yn chwarae gyda'r Gleision.
"Mae cyflwr maes Parc Yr Arfau wedi bod yn ofnadwy.
"Fe wnaeth Tom chwarae yn y gêm yn erbyn y Saracens ac roedd yn canmol y maes yn fawr iawn.
"Dwi'n credu y bydd hyn yn helpu'r tîm ac yn helpu o ran yr ochr adloniant a masnachol.
"Mae'r bechgyn yn cwyno yn gyson am Barc Yr Arfau, yn methu chwarae rygbi agored, dydi'r sgrym ddim wedi bod yn gryf ac mae hi mor llithrig, dim ond mwd a baw sydd yna...
"Roedd Tom yn dweud bod wyneb y cae yn Saracens yn arbennig, yn braf a hawdd chwarae arno."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2013