BBC: Undebau ar streic 12 awr

  • Cyhoeddwyd
BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Mae aelodau NUJ a Bectu ar streic 12 awr

Mae staff BBC Cymru sy'n aelodau o Undeb y Newyddiadurwyr a Bectu wedi dechrau streic am gyfnod o 12 awr, fel rhan o weithredu ar draws y BBC ynglŷn â diswyddiadau a honiadau o fwlio.

Fe gychwynodd streic aelodau Undeb y Newyddiadurwyr a Bectu am hanner dydd.

Mae'r BBC wedi ymddiheuro am yr effaith ar yr arlwy.

Yn ôl David Donovan, swyddog cenedlaethol Bectu, mae'r streic yn anfon "neges glir".

"Rwy'n credu taw'r hyn y dylai'r BBC ei astudio yw canlyniad positif o blaid gweithredu diwydiannol, a dyna'r neges ry'n ni am i reolwyr BBC Cymru ei gymryd i'r rheolwyr yn Llundain."

Dywedodd fod gan yr undeb dystiolaeth bod pobol yn teimlo dan bwysau oherwydd cynnydd mewn llwyth gwaith, a bod rhai unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu bwlio.

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: "ry'n ni'n barod i gydweithio gyda'r undebau, ond ry'n ni'n ffili cynnig addewid na fydd diswyddiadau gorfodol . Mae hi'n hinsawdd ariannol anodd ac mae hynny'n creu penderfyniadau anodd hefyd."

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol