Ysgolion a chartrefi gofal Caerdydd yn glir o gig ceffyl
- Cyhoeddwyd

Does 'na ddim DNA cig ceffyl na moch wedi eu canfod mewn samplau o fwyd gafodd eu cymryd o ysgolion a chartrefi gofal yng Nghaerdydd ar ôl i'r cyngor orchymyn profion.
Roedd y cyngor wedi atal cyflenwr oedd wedi ei herio gan awdurdod arall am y posibilrwydd o gig ceffyl mewn cynnyrch gafodd ei gyflenwi iddyn nhw.
Fe wnaeth Cyngor Caerdydd orchymyn dros 200 o brofion annibynnol, bob un yn negyddol.
Dywedodd eu bod yn cymryd camau i leihau'r risg o fwyd wedi ei lygru.
"Dwi wedi gofyn i swyddogion adolygu'r gadwyn fwyd er mwyn sicrhau bod modd ei olrhain yn glir a'i fod yn gwbl dryloyw," meddai'r Cynghorydd Ashley Govier, aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb am yr amgylchedd.
"O ganlyniad, rydym wedi ymateb yn gyflym....
"Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau bod prosesau yn cael eu hymestyn i unrhyw wasanaeth arall sy'n rhan o'n cyfrifoldeb, clybiau ar ôl ysgol ac ati."
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod mewn trafodaethau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru i ystyried mesurau i "gynnig y lefel gywir o sicrwydd i'r cyhoedd" gan gynnwys mesurau gwell i ganfod twyll ac annog newidiadau i'r system gadwyn fwyd bresnol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2013