Teyrngedau i Matthew MacMillan a Mitchell Evans wedi damwain car ym Mhontardawe
- Cyhoeddwyd

Mae teuluoedd dau ddyn fu farw ar ôl i'r car yr oedden nhw'n teithio ynddo wyro oddi ar y ffordd a tharo coeden yng Nghwm Tawe, wedi talu teyrnged iddyn nhw.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ar yr A474 Ffordd Castell-nedd yn Fforest Goch ger Pondardawe tua 7pm nos Fawrth.
Roedd Matthew MacMillan, o Lansawel, a Mitchell Evans o Gimla, Castell-nedd, yn teithio mewn car Renault Clio arian.
Roedd y ddau yn 21 oed.
Dywedodd yr heddlu bod trydydd person yn y car ac yn yr ysbyty yn cael triniaeth.
Fe ddywedodd teulu Mr MacMillan, oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel Millan, ei fod yn ŵr ifanc hyfryd, cariadus a phrydferth.
Colled
"Roedd yn frawd i Siobhan, Christopher ac Ellouise ac yn dad balch i Macey a'i mam Becky, yn ewythr arbennig i Harvey ac ŵyr Paul a Gloria," meddai'r datganiad a gafodd ei ryddhau ar ran y teulu gan Heddlu De Cymru.
"Fe fydd yn cael ei golli gan y teulu cyfan.
"Roedd pawb yn gwenu gyda fo. Roedd ganddo gymaint o ffrindiau arbennig."
Fe ychwanegodd ei fam, Sian, ei bod wedi ei garu erioed ac y bydd yn parhau i wneud.
"Dwi'n gwybod y bydd yn edrych i lawr gyda'i wen hyfryd."
Apêl
Fe wnaeth Alisa a Ieuan Evans dalu teyrnged i'w mab Mitchell, gan ddweud bod eu byd wedi ei droi ben i'w waered wrth i'w mab "prydferth" gael ei ladd.
"Yn fab arbennig, brawd a ŵyr.
"Fydd bywyd fyth yr un fath."
Mae swyddogion heddlu arbenigol yn parhau i gynnig cefnogaeth i'r teuluoedd.
Mae'r heddlu yn apelio am dystion, gan gynnwys unrhyw un welodd y gwrthdrawiad, arhosodd i gynnig cefnogaeth neu unrhyw un welodd y cerbyd cyn y ddamwain.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth, fe ddylen nhw gysylltu gydag uned plismona ffyrdd Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2013