Abertawe 1-2 Spurs

  • Cyhoeddwyd
Spurs
Disgrifiad o’r llun,
Spurs yn dathlu yn y Liberty

Gareth Bale oedd y seren, yn creu un gôl a sgorio'r llall wrth i Spurs drechu Abertawe.

Wedi saith munud creodd ei bas gwefreiddiol gyfle i Jan Vertonghen sgoriodd y gôl gynta'.

Ar ôl 20 munud ergydiodd Bale ger y cwrt cosbi.

Ymdrechodd Abertawe'n fwy yn yr ail hanner ac wedi 70 munud peniodd Miguel Michu yn agos iawn at y gôl. Hon oedd ei ugeinfed gôl y tymor hwn.

Roedd gobaith y byddai Abertawe'n dod yn gyfartal ond collodd Nathan Dyer gyfle euraidd wrth benio o flaen y gôl.

Wedyn tarodd Bale y postyn ar ôl rhedeg am 60 llath.

Abertawe'n colli eu trydedd gêm yn olynol y tymor hwn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol