BBC Cymru Fyw

Peterborough 2-1 Caerdydd

Published
image captionGrant McCann: Ergyd ddwbl

Dwy gic o'r smotyn Grant McCann o fewn saith munud stopiodd Caerdydd rhag ymestyn eu mantais ar frig y tabl.

Dim ond ychydig o funudau yr oedd yr eilydd wedi bod ar y cae ond roedd yn glinigol iawn.

Roedd Aron Gunnarsson wedi rhoi Caerdydd ar y blaen ar ôl 23 munud, gôl anniben wedi cyffyrddiad dechau Ben Turner.

Ond nid oedd Caerdydd yn gallu dianc rhag melltith London Road. Dyw Caerdydd ddim wedi ennill yno ers Hydref 1986.

Yr her i Gaerdydd o hyn ymlaen - maen nhw angen 14 o bwyntiau yn yr wyth gêm sy'n weddill.

Ond y pryder yw nad oedd perfformiad Caerdydd yn dda iawn yn y gêm hon.

Dim llawer o syniadau na chreu cyfleon ac mae'n bosib iawn eu bod yn gweld eisiau Craig Bellamy.

Straeon perthnasol

  • Caerdydd yn cael buddugoliaeth yn erbyn Crystal Palace