BBC Cymru Fyw

Hyde 2-0 Wrecsam

Published

Goliau Scott Hogan a Shay McCartan chwalodd obeithion Wrecsam.

Sgoriodd Hogan yn yr hanner cynta' wedi i Matthew Blinkhorn greu cyfle ac ergydiodd McCartan wedi awr a hanner.

Anodd credu mai hon oedd yr un wythnos yr enillodd Wrecsam Dlws yr FA.

Roedd ganddyn nhw ddigon o feddiant ond y broblem oedd methu troi cyfleoedd yn bwyntiau.

Mae Hyde wedi ennill pum gêm yn olynol ac wedi dianc rhag gwaelodion y tabl.

Casnewydd 0-0 Dartford

Gêm ddifflach ar y cyfan ond yr ail hanner ychydig yn gynhyrfus.

Wedi 45 munud saethodd Andy Sandell ond arbedodd Csaba Somogyi i'r ymwelwyr.

Scott Donnelly gymerodd y gic gornel a llwyddodd Adam Green i glirio o'r lein.

Ddwy funud yn ddiweddarach ym mhen arall y cae Jon Wallis gymerodd y gic gornel a Lenny Pidgeley arbedodd.

Pan droseddodd Tom Bonner cafodd Casnewydd gic rydd. Ergydiodd Scott Donnelly a llwyddodd Csaba Somogyi i arbed unwaith eto.

Bum munud wedyn troseddodd Byron Anthony.

Elliot Bradbrook gymerodd y gic rydd ond arbedodd Lenny Pidgeley.

Diwrnod i'r golgeidwaid oedd hwn.

Straeon perthnasol

  • Wrecsam 0-0 Luton