Dod o hyd i gorff mewn ffos
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i gorff gael ei ddarganfod mewn ffos ddydd Sadwrn.
Roedd y corff yr ochor draw i'r orsaf heddlu yn y Gwndy yn Sir Fynwy ac aelod o'r cyhoedd roddodd wybod i'r heddlu am 10am.
"Mae'n ymddangos nad yw hyn yn amheus," meddai llefarydd ar ran yr heddlu. "Does dim esboniad hyd yn hyn."
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod.