George North: Dadlau rhwng yr WRU a'r rhanbarthau
- Cyhoeddwyd

Mae Undeb Rygbi Cymru yn honni bod y Scarlets wedi dechrau trafodaethau gyda chlybiau yn Ffrainc ynglyn a gwerthu'r asgellwr George North.
Yn ôl yr Undeb doedd y chwaraewr ei hun ddim yn ymwybodol o'r sefyllfa.
Hon ydi'r ffrae ddiweddara rhwng y WRU a'r pedwar rhanbarth proffesiynol.
Mewn datganiad mae'r Undeb yn honni bod y Scarlets wedi dechrau trafodaethau i drosglwyddo'r chwaraewr i glybiau tramor yn 2012.
"Fe wrthododd George ac ystyried Ffrainc ond, er ei fod e'n anfodlon, fe ddywedodd y byddai'n barod i symud os mai dyna oedd dymuniad y Scarlets"
Bydd cytundeb North gyda'r Sacrlets yn dod i ben ar ddiwedd tymor 2013-14, ond mae e eisioes wedi cael cynnig i ymuno a Northampton Saints ar ddiwedd y tymor yma.
Yn eu datganiad mae Undeb Rygbi Cymru yn egluro bod y chwaraewr wedi dweud wrthyn nhw yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad am y cynnig i chwarae yn Lloegr.
Trafod Cytundebau
Yn y drafodaeth ynglŷn â yfodol y rhanbarthau mae'r corff llywodraethol yn honni eu bod nhw wedi cynnig ym mis Awst 2012 i ystyried rhoi cytundebau canolog i chwaraewyr fel yr asgellwr 20 oed.
Dywedodd yr Undeb nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw ymateb ystyrlon gan y rhanbarthau i hynny.
Mae'r Undeb yn dweud eu bod nhw yn barod ystyried rhoi cefnogaeth ariannol er mwyn sicrhau bod George North yn aros yng Nghymru gyda un o'r pedwar rhanbarth. Ond mae'r datganiad yn feirniadol o agwedd y rhanbarthau.
"Yn ddiweddar mae'r Undeb wedi darganfod bod y rhanbarthau wedi arwyddo cytundeb sy'n eu hatal rhag chwarae unigolyn fyddai â chytundeb canolog gyda'r Undeb. Mae'r Undeb yn annog y pedwar rhanbarth i roi'r gorau i'r safiad yma a dychwelyd at y bwrdd trafod"
Mae'r Undeb hefyd eisiau i'r rhanbarthau roi'r gorau i'r arferiad o werthu chwaraewyr rhyngwladol Cymru am elw cyn bod eu cytundebau wedi dod i ben. Yn ogystal, mae'r corff llywodraethol yn dymuno i'r rhanbarthau roi gwybod i'w gilydd os ydyn nhw yn ystyried gwerthu neu ryddhau chwaraewyr rhyngwladol Cymru.
Mae'r Rhanbarthau yn dweud eu bod nhw'n siomedig iawn gyda datganiad mor gyhoeddus gan Undeb Rygbi Cymru.
Daw datganiad yr Undeb ar ol i Gadeirydd Rygbi Rhanbarthol Cymru, Stuart Gallagher ddatgelu bod y rhanbarthau wedi cynnal trafodaethau cychwynnol ynglŷn â ffurfio cystadleuaeth Eingl-Gymreig newydd.
Dywedodd Gallagher wrth BBC Cymru bod yna "glwydi mawr i'w dringo" cyn y byddai hynny yn digwydd.
Datgelodd hefyd nad ydi'r corff gafodd ei sefydlu ddiwedd y llynedd i gynrychioli'r Undeb a'r rhanbarthau ddim wedi cwrdd eto
Yn ol yr Undeb fe geisiodd y rhanbarthau "newid" egwyddorion sylfaenol y PRGB ar ddechrau 2013. Mae'r WRU yn dweud eu bod nhw wedi cyflwyno cynnig newydd ynglŷn â'r corff ac mae nhw yn dal i ddisgwyl am ymateb y rhanbarthau.
Mae'r Undeb Rygbi Cymru yn dweud eu bod yn rhoi cyfanswm o dros £6m i'r rhanbarthau er mwyn sicrhau bod chwaraewyr ar gael ar gyfer gemau Cymru. Mae hwn yn rhan o gyfanswm o £15m yn flynyddol sydd yn cael ei roi i'r rhanbarthau.
Yn y datganiad mae'r Undeb yn pwysleisio'r angen i helpu'r rhanbarthau sicrhau rygbi a busnes cynaliadwy yn y tymor hir.
"Dyw galwadau am ragor o arian ddim yn mynd i'r afael a'r problemau sylfaenol"