BBC Cymru Fyw

Wrecsam 0 Macclesfield 0: Y Dreigiau yn methu ennill triphwynt gwerthfawr

Published
image captionCefnogwyr Wrecsam yn clirio eira oddiar y Cae Ras

Ar ôl ymdrech arwrol gan y cefnogwyr i glirio tunnelli o eira oddiar y Cae Ras, gêm ddisgor gafodd y Dreigiau yn erbyn Macclesfield ar Lun y Pâsg.

Fydd hynny yn fawr o gysur i dîm Andrew Morrell yn eu brwydr i ennilll dyrchafiad uniongyrchol o uwch Gynghrair Blue Square.

Mi enillodd Mansfield a Kidderminster sydd uwch eu pennau. Roedd na fuddugoliaeth hefyd i Gasnewydd sy'n golygu bod Wrecsam bellach yn bedwerydd.

Y gobaith gorau sydd ganddyn nhw bellach o adenill eu lle yn y Cynghrair ydi trwy'r gemau ail-gyfle. Trip arall i Wembley ym mis Mai efallai ?