Trysorlys i 'gymeradwyo cynlluniau i ledu'r M4'

  • Cyhoeddwyd
Traffig ger twneli Brynglas, Casnewydd, ar yr M4Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd cynlluniau i ledu traffordd yr M4 eu cyhoeddi'n wreiddiol yn 2004

Gallai cynlluniau i ledu traffordd yr M4 ger Casnewydd gael cefnogaeth gan y Trysorlys, yn ôl adroddiadau yn y wasg.

Mae papurau newydd y Times a'r Independent yn adrodd y bydd y Canghellor cynlluniau i gefnogi traffordd doll newydd fel rhan o adolygiad gwariant y llywodraeth ym mis Mehefin.

Yn ei gyllideb fis Mawrth, roedd George Osborne wedi dweud ei fod yn awyddus i wario £3 biliwn ar gynlluniau isadeiledd er mwyn roi hwb i'r economi.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 yn 2004, cyn eu rhoi o'r neilltu yn 2009.

Dywedon nhw fis Mawrth eu bod yn "ystyried" sut i leddfu problemau traffig ar y draffordd o gwmpas Casnewydd.

Mae trafodaethau'n parhau rhwng llywodraethau'r DU a Chymru ar ffyrdd o ariannu gwelliannau i'r M4 yn ne Cymru.

Tollau

Yn ôl adroddiadau papur newydd, bydd y Trysorlys yn cadarnhau buddsoddiad fydd yn caniatáu Llywodraeth Cymru i ledu'r draffordd ac yna i ad-dalu rhywfaint o'r benthyciad drwy godi toll am ddefnyddio'r ffordd.

Mae arweinwyr busnes wedi rhybuddio fod problemau traffig mawr yn yr ardal wedi niweidio economi de Cymru.

Mae Cymdeithas y Cyflogwyr, y CBI, wedi dweud bod adeiladu ffordd liniaru ar gyfer yr M4 ger Casnweydd yn "flaenoriaeth amlwg".

Dywedodd Leighton Jenkins, cyfarwyddwr cynorthwyol CBI Cymru:

"Mae'r M4 yn borth i Gymru ac yn chwarae rhan allweddol mewn denu buddsoddiad ar adeg anodd.

"Mae'r CBI wedi bod yn glir iawn - mae lledu'r M4 yn hanfodol ar gyfer at lwyddiant tymor hir Cymru ac rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r DU i geisio rhoi cynllun hyfyw ar waith."

Trafodaethau

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Dydyn ni ddim yn gwneud sylw ar adroddiadau ond, fel y dywedwyd o'r blaen, rydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i gael pwerau benthyca er mwyn codi'r cyllid ar gyfer buddsoddi mewn isadeiledd. Mae'r trafodaethau hynny'n parhau.

"Yn y cyfamser, rydym yn parhau i ystyried nifer fawr o ymatebion i'n hymgynghoriad ar welliannau i'r M4 rhwng Magwyr a Chas-bach."

Dyw llywodraethau'r DU ddim wedi ymateb i'r adroddiadau diweddaraf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol