Allforion ar gynnydd ymhlith busnesau'r de a'r canolbarth
- Cyhoeddwyd

Mae busnesau de a chanolbarth Cymru yn gwerthu mwy dramor a chanddyn nhw fwy o hyder er gwaetha'r heriau economaidd, yn ôl arolwg.
Dywedodd Siambr Fusnes De Cymru fod dros dri chwarter (78%) busnesau wedi llwyddo i gynnal neu gynyddu allforion o'i gymharu â 75% yn ystod y chwarter diwetha'.
Ond mae'r arolwg yn dangos fod cynnydd ym mhrisiau ynni yn un o'r prif bryderon.
Marchnadoedd yn Asia sy'n cael eu targedu bennaf ar gyfer busnes newydd.
Mae'r Arolwg Economaidd Chwarterol yn edrych ar berfformiad busnesau yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe, canolbarth Cymru ac ardaloedd cyfagos.
Mae'r siambr, sy'n anfon arolygon at 4,500 o fusnesau, yn honni eu bod yn gallu rhoi darlun o gryfder economi Cymru.
"Roedd ein harolwg cynta' ar gyfer 2013 yn dangos bod allforion wedi parhau'n gryf neu wedi gwella ar y cyfan," meddai cyfarwyddwr y siambr, Graham Morgan.
"Er ei bod yn gyfnod anodd, mae 'na hyder ymhlith y gymuned fusnes yn ne a chanolbarth Cymru."
Dywedodd fod 'na ymdrech i ganolbwyntio ar farchnadoedd penodol, gan gynnwys Japan, Hong Kong, Malaysia ac India.
Yn ôl Mr Morgan, os yw busnesau am ffynnu yn yr hinsawdd economaidd bresennol, rhaid iddyn nhw edrych y tu hwnt i'r DU ac edrych ar "bob posibilrwydd i'r eithaf".
"Gydag ychydig iawn yng Nghyllideb y canghellor i helpu busnesau, mae hyn yn hollbwysig, a byddwn yn annog busnesau i beidio ag aros yn llonydd ond i barhau i fod yn rhagweithiol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2012
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2010