Gŵyl delynau Caernarfon yn dathlu penblwyddi
- Cyhoeddwyd

Mae Gŵyl Delynau Caernarfon yn dathlu nifer o benblwyddi eleni.
Bydd y telynor Osian Ellis, sydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 85 oed eleni, yn cyflwyno darlith ar weithio gyda'r cyfansoddwr Benjamin Britten, a aned yn 1913.
Yn yr un flwyddyn bu farw'r telynor John Thomas, a bydd yr ŵyl yn dechrau gyda rownd ragarweiniol Gŵyl genedlaethol Pencerdd Gwalia, sy'n coffau ei fywyd a'i waith.
Cyfarwyddwr yr ŵyl, sy'n cael ei threfnu gan Ganolfan Gerdd William Mathias, yw Elinor Bennett.
Bydd Ms Bennett yn perfformio caneuon gan Benjamin Britten gyda'r tenor, Rhys Meirion.
"Mae Britten wedi cynnwys y delyn ym mhob un o'i brif gyfansoddiadau," meddai.
"Bu Osian yn cydweithio'n agos gyda Britten am nifer o flynyddoedd, ac fe fydd hi'n fraint ac yn anrhydedd cael ei groesawu i'r ŵyl i roi darlith o'r enw Working with Benjamin Britten.
"Bydd yr ŵyl hefyd yn gyfle gwych i gyfarfod rhai o delynorion gorau ac enwocaf Cymru.
"Bydd telynorion, a phobl o bob oed sydd wrth eu bodd â cherddoriaeth, yn dathlu gwaith eiconig Osian Ellis ac yn helpu i ddathlu ei benblwydd yn 85 oed," dywedodd.
Ymhlith y cerddorion gwadd eraill mae Elen Hydref, Gillian Green, a Katherine Thomas.
Yn ogystal bydd Elfair Grug Dyer, un o gyn-fyfyrwyr y Ganolfan, yn dod yn ôl i'r Ŵyl i berfformio'r Suite for Harp gan Britten, darn a gyfansoddwyd ar gyfer Osian Ellis.
Cynhelir yr ŵyl ar ddydd Mercher a dydd Iau, Ebrill 3-4, yng Nghanolfan Menter Greadigol Galeri, Caernarfon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2005