Gwybodaeth: 'Angen diwygio'r ddeddf'

Rhyddid Gwybodaeth
Image caption Cafod Cyngor Tref Prestatyn bron 600 o geisiadau dros gyfnod o dair blynedd

Mae angen diwygio'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth er mwyn cyfyngu ar nifer y ceisiadau y caiff unrhyw unigolyn eu cyflwyno, yn ôl swyddogion un cyngor tref.

Daeth yr alwad wedi i Gyngor Tref Prestatyn dderbyn bron i 600 o gwestiynau, ceisiadau am wybodaeth a chwynion dros y tair blynedd diwethaf, gyda'r mwyafrif yn dod gan un unigolyn.

Dywed Nigel Acott, swyddog ariannol a chlerc Cyngor Tref Prestatyn, bod rhwng 30-40% o'i oriau gwaith bob wythnos yn cael eu treulio yn delio gyda cheisiadau am wybodaeth neu gwynion gan yr unigolyn yma, ac yn ychwanegu nad oes dim yn y ddeddfwriaeth sy'n atal pobl rhag anfon ceisiadau dro ar ôl tro.

'Llesteirio'n gwaith'

Dywedodd Mr Acott: "Y llynedd fe wnaethon ni edrych ar fy amserlen waith a darganfod ein bod fel cyngor y gwario siŵr o fod £17,500 yn delio gyda cheisiadau unigol am wybodaeth.

"Y flwyddyn hon mae'r cyngor tref wedi clustnodi cyllideb o £6000 ar gyfer ffioedd cyfreithiol ynghlwm â'r math yma o geisiadau.

"Mae'n llesteirio ein gwaith - mewn termau ariannol a hefyd o ran gallu'r cyngor tref i weithredu i gynnig cymorth i grwpiau o fewn y dref - sef yr hyn yr ydym am ei wneud."

Cyfyngiadau

Caiff Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth eu hanfon i unrhyw gorff sydd yn cael ei ariannu gydag arian cyhoeddus, ac maent yn cael eu defnyddio yn gyson gan newyddiadurwyr, busnesau a gwleidyddion i dderbyn gwybodaeth sydd ddim ar gael yn gyhoeddus.

Caiff unrhyw aelod o'r cyhoedd wneud cais o'r math yma hefyd. O dan y Ddeddf Rhyddid Wybodaeth mae gan y llywodraeth ganolog yr hawl i wrthod unrhyw gais fyddai'n costio mwy na £600 i ddod o hyd i'r wybodaeth dan sylw - a chyfanswm y gost i lywodraeth leol ydi £450 y cais.

Er bod y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn dweud nad oes rhaid i gyrff cyhoeddus ymateb i geisiadau trallodus neu ailadroddus, does dim yn y ddeddf yn atal y nifer o geisiadau y gall unigolion eu hanfon at yr awdurdodau.

Cwynion

Yn ogystal â delio gyda nifer o Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a cheisiadau eraill am wybodaeth, mae Cyngor Tref Prestatyn hefyd wedi bod yn destun nifer fawr o gwynion gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae delio gyda'r cwynion hyn hefyd wedi cymryd llawer o amser, yn ôl Nigel Acott:

"Yn 2012 dwi'n credu ein bod wedi derbyn y nifer fwyaf o gwynion trwy Gymru - sef 85 cwyn - ac roedd 72 o'r cwynion hyn wedi cael eu creu gan yr un person.

"Does 'na'r un o ymchwiliadau'r Ombwdsmon wedi arwain at unrhyw gamau pellach yn erbyn y cyngor.

"Ar ddiwedd y dydd mae 'na ddyletswydd arnon ni o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth i ymateb i bob un cais - mae 'na orfodaeth yna i ymateb, dim ots beth ydi'r cwestiwn sy'n cael ei ofyn."

'Gweithio'n dda'

Ond dywedodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - yr awdurdod annibynnol a sefydlwyd i warchod hawliau gwybodaeth - bod y Ddeddf yn gweithio'n dda ar ei ffurf bresennol.

Ann Jones yw pennaeth y Swyddfa yng Nghymru, a dywedodd:

"Yn gyffredinol mae'r ddeddf yn gweithio'n dda yn ein barn ni - mae ambell broblem, ond yn gyffredinol mae'n iawn.

"Mae pobl yn gofyn am wybodaeth ac yn ei chael.

"Yn nhermau beth sy'n rhesymol, ein barn ni yw bod digon yn y ddeddf ar hyn o bryd i ganiatáu i awdurdodau ddelio gyda cheisiadau, ond yn aml iawn am resymau dealladwy mae diffyg dealltwriaeth yn y cynghorau llai.

"Dydw i ddim yn credu bod angen newid y ddeddf, ond mae ambell fan newid ar y gweill allai wneud pethau'n haws pan mae tystiolaeth bod baich anghymesur ar awdurdodau."

'Effaith ar y gymuned'

Yn ôl 'Un Llais Cymru' - y corff sydd yn cynrychioli dros 500 o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru - mae'r pwysau o ddelio gyda cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth a chwynion i'w deimlo'n waeth gan gynghorau bychain - cynghorau sydd gyda llai o adnoddau a gweithwyr na chynghorau sir.

Yn ôl Lyn Cadwallader, prif weithredwr 'Un Llais Cymru':

"Rydym yn gwybod fod 56% o gynghorau yng Nghymru gyda chlerc sy'n gweithio llai na 10 awr yr wythnos, felly yn naturiol bydd unrhyw gais am wybodaeth yn ychwanegol i'w gwaith o ddydd i ddydd.

"O ran gwaith y cynghorau cymuned, mae amser y clerc wedi ei glustnodi i weinyddu'r gwasanaethau hynny sydd yn cael eu cynnig gan y cyngor, ac mae unrhyw waith arall yn ychwanegol i hynny yn mynd i gael effaith ar y gymuned yn lleol."

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi rhybuddio yn y gorffennol fod awdurdodau lleol yn cael trafferth i ymdopi gyda niferoedd y Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth sy'n cael eu hanfon atynt - ac mae'r nifer wedi dyblu ers 2005. Fe ddywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth raglen Sunday Politics BBC Cymru'r llynedd nad oedd cynghorau yn gallu fforddio gwario llawer o arian ar geisiadau "diangen".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.