Llaw tad ifanc yn cael ei hailgysylltu yn Ysbyty Treforys
- Cyhoeddwyd

Mae llaw tad ifanc wedi cael ei hailgysylltu wedi iddo ei cholli mewn damwain yn y gwaith.
Dioddefodd Jarred Evans, 21, o Donypandy, Rhondda Cynon Taf, ddifrod i'r gwythiennau a'r rhedwelïau ym mhob un o'r bysedd ar ei law dde a dim ond ei fawd oedd yn gyfan wedi'r ddamwain.
Roedd angen llawdriniaeth am 13 awr yn Ysbyty Treforys yn Abertawe arno.
Dywedodd: "Mae gen i ddau blentyn bach, felly byddaf yn dal i fedru eu codi.
Cafodd y gweithiwr ffatri ei drin yng Nghanolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru.
Dywedodd: "Wrth i mi aros yn yr ystafell anesthetig cyn i'r llawdriniaeth ddechrau roeddwn yn ofnus dros ben a doeddwn i ddim yn gwybod os allai fy llaw gael ei hachub.
"Pan ddeffrais, roeddwn yn synnu eu bod wedi ei hailgysylltu. Mae'n anghredadwy beth mae'r staff yn gallu ei wneud yma.
"Ni allaf ddiolch digon i'r doctoriaid a'r nyrsys."
Dywedodd Richard Karoo, y Llawfeddyg Blastig gyflawnodd y llawdriniaeth: "Anaml y gwelir anafiadau'n debyg i'r rhai ddioddefodd Jarred.
"Gallai uned llawdriniaeth blastig drin achos o'r fath bob ryw ychydig flynyddoedd, ond maen nhw mor anghyffredin na fydd llawer o feddygon neu nyrsys yn gweld y fath anaf yn eu gyrfa.
"Mae achos Jarred yn fwy cymhleth fyth oherwydd y man lle cafodd y llaw ei thorri.
"Roedd hyn yn golygu mai unwaith y cafodd y llaw ei hailgysylltu gyda phinnau metel trwy'r esgyrn, ni fyddai gwaed yn gallu llifo yn ôl ac ymlaen i gadw'r llaw'n fyw.
"Er mwyn atgyweirio hyn rydym wedi defnyddio gwythiennau o'i goesau a'i freichiau i gymryd lle'r rhai oedd wedi eu colli."
Defnyddiwyd microsgôp er mwyn allu defnyddio pwythau mor fain â gwallt i ail-gysylltu cyflenwad gwaed i'r bysedd.
Dywedodd Mr Evans: "Dwi'n gwybod bod gen i ffordd hir o fy mlaen, gyda chyfnod hir o adferiad yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, ond mae beth y mae'r tîm wedi gallu eu gwneud yn barod yn hollol wych."