Teyrnged i ddarlithydd 'uchel ei barch'

  • Cyhoeddwyd
Dr Eilir MorganFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Teyrnged: 'Yn uchel ei barch'

Mae Prifysgol Bangor wedi talu teyrnged i ddarlithydd "uchel ei barch" fu farw wedi damwain yn Llanrug ger Caernarfon ddydd Llun.

Roedd Dr Eilir Morgan, 29 oed, yn dod o ardal Ffestiniog.

Dywedodd y Brifysgol y byddai colled enfawr ar ei ôl.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i'r digwyddiad yn ymwneud â jac codi baw ger adeilad yn ymyl fferm.

Cafodd yr heddlu eu galw yno ychydig wedi pedwar o'r gloch brynhawn Llun.

Ionawr

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod amgylchiadau'r farwolaeth yn parhau'n destun ymchwiliadau ganddyn nhw a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Mae archwiliad post mortem wedi ei gynnal ac mae'r crwner wedi cael gwybod.

Mae Prifysgol Bangor wedi talu teyrnged i Dr Morgan, a benodwyd yn ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym mis Ionawr.

Roedd hefyd wedi astudio yno ar gyfer graddau BSc, MSc a PhD.

"Fel myfyriwr ac aelod o staff roedd yn gymeriad annwyl a hoffus dros ben, ac yn uchel ei barch ymhlith ei gydweithwyr a myfyrwyr."

'Brwdfrydig'

"Roedd yn ddarlithydd egnïol a brwdfrydig oedd yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gwahanol, ac roedd ganddo yrfa academaidd addawol o'i flaen.

"Roedd ymysg y cyntaf i ennill ysgoloriaeth dan adain y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, a daeth yn un o'r ychydig rai i ddarlithio yn y maes Gwyddorau Eigion trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Bydd colled enfawr ar ei ol."