Hwb ariannol i lyfrgelloedd
- Cyhoeddwyd

Bydd chwe llyfrgell gyhoeddus yn derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru i dalu am welliannau.
Bydd bron i £1 miliwn o gyllid cyfalaf yn cael ei rhannu rhwng llyfrgelloedd Treganna, Cwmbrân, Treforys, Pen-y-bont ar Ogwr, y Drenewydd a Hwlffordd.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe ddaw hyn â nifer y llyfrgelloedd a fydd wedi eu moderneiddio fel rhan o Raglen Llyfrgelloedd Dysgu Cymunedol i 89.
Ond fe ddaw ar adeg pan mae gwasanaethau llyfrgell mewn sawl ardal yng Nghymru o dan fygythiad oherwydd toriadau gan gynghorau lleol.
'Cyfoeth o adnoddau'
Dywedodd John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon: "Mae ein hamgueddfeydd, ein harchifdai a'n llyfrgelloedd yn cynnig cyfoeth o adnoddau a gweithgareddau a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, yn enwedig teuluoedd ar incwm isel, gan fod modd eu mwynhau am ddim neu am bris mynediad isel iawn.
"Bydd y grantiau hyn yn creu canolfannau diwylliannol ac addysgol deinamig, modern yn ein cymunedau i bawb eu mwynhau".
Mae'r buddsoddiad yn rhan o £2.17 miliwn i annog mwy o bobl i ymweld â'u hamgueddfeydd, eu harchifdai a'u llyfrgelloedd lleol, a'u defnyddio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2012