Pensiynau: 'Newid yn rhy gyflym'

  • Cyhoeddwyd
Pryder am newidiadau i fudd-daliadau
Disgrifiad o’r llun,
Pryder am newidiadau i fudd-daliadau

Mae un o bwyllgorau San Steffan yn feirniadol o Lywodraeth Prydain am newid pensiwn y wladwriaeth yn gynt na'r disgwyl.

Fis diwethaf fe gyhoeddodd y Canghellor George Osborne y bydd system newydd o roi'r un taliad i bawb yn cael ei chyflwyno ymhen tair blynedd sy'n golygu bod 'na flwyddyn yn llai i baratoi.

Fe ddaeth y cyhoeddiad wrth i'r Pwyllgor Gwaith a Phensiynau barhau i graffu ar y newidiadau.

Mae Llywodraeth Prydain yn diolch i'r Pwyllgor am wneud hynny.

Bydd Pensiwn Sengl o £144 yr wythnos yn cael ei gyflwyno yn 2016 yn hytrach na 2017, ac fe fydd ail bensiwn y wladwriaeth yn diflannu bryd hynny.

Ar hyn o bryd mae'r pensiwn sylfaenol yn £107 yr wythnos ac mae ychwanegiadau ar gael ar sail angen.

Yn ôl y llywodraeth fe fydd y system newydd yn decach i'r hunan-gyflogedig a llawer o famau.