Y frech goch: Clinigau galw heibio
- Cyhoeddwyd

Fe fydd clinigau galw heibio yn cael eu cynnal yn ardal bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg ddydd Sadwrn gan fod dros 500 o achosion o'r frech goch wedi eu cofnodi yn y clwstwr o achosion yn ardal Abertawe.
Roedd 109 o'r achosion hynny wedi eu cofnodi o fewn yr wythnos ddiwethaf.
Fe fydd y clinigau rhwng 10am a 4pm yn Ysbytai Treforys, Singleton, Tywysoges Cymru, a Chastell-nedd Port Talbot.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r risg y bydd plant sydd heb gael eu brechu yn dod i gysylltiad â phobl sydd eisoes wedi eu heintio yn cynyddu'n ddyddiol ac mae pobl sydd heb eu brechu yn debygol iawn o gael yr haint.
Dywed y corff mai mater o amser yw hi, felly, cyn bod plentyn yn cael cymhlethdodau difrifol a pharhaol fel problemau gyda'r llygaid, byddardod, niwed i'r ymennydd, neu yn marw.
Mae achosion yn parhau i ddod i'r amlwg ar draws Cymru, gyda'r mwyafrif yn ardaloedd Abertawe Bro Morgannwg, Powys a Hywel Dda.
'Brawychus'
Dywedodd Dr Marion Lyons, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Mae'r brechiad MMR yn cael ei argymell gan Sefydliad Iechyd y Byd, Adran Iechyd Llywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru fel y dull mwyaf effeithiol a diogel o ddiogelu plant rhag y frech goch.
"Mae'r nifer brawychus o achosion o'r frech goch, a'i ymlediad yng Nghymru yn dangos pa mor bwysig yw hi fod rhieni yn sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu.
"Rwy'n obeithiol y byddwn ni trwy gydymdrech, a chyda rhieni cyfrifol yn brechu'r plant, yn gallu lleihau'r risgiau i blant o'r afiechyd ofnadwy hwn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2013