Rhybudd am danau gwair bwriadol
- Cyhoeddwyd

Wrth i ddiffoddwyr geisio taclo nifer o danau gwair ar draws Cymru dros nos, mae yna bryder bod nifer yn cael eu cynnau'n fwriadol.
Bellach mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi lleihau gweithredoedd i'r gogledd o Abertawe.
Dros nos Fercher bu pedwar o griwiau yn ceisio diffodd tân ar fynydd Gelli Wastad rhwng Treforys, Clydach a Phontardawe, ac mae sawl rhan yn dal i losgi.
Ond dim ond un injan dân sydd ar y safle erbyn bore Iau.
Yn y cyfamser, dywed Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod dau dân gwair mawr yn ardal y Rhondda, a'u bod wedi gadael y rhain i losgi gan fod amgylchiadau yn rhy beryglus i'r diffoddwyr.
Oherwydd tirwedd anodd a gwyntoedd cryfion, nid oedd criwiau yn medru cyrraedd tanau ym Mlaenllechau a Chymer yn ddiogel.
Cafodd rhyw 100 metr sgwâr o eithin a rhedyn ei losgi yn fwriadol yn ardal Caergybi ar Ynys Môn hefyd, ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi rhybuddio bod y broblem yn un ddifrifol.
Dros y dyddiau diwethaf, mae diffoddwyr wedi cael eu galw i dros 150 o danau gwair ledled y wlad.
Dywedodd y Gwasanaeth Tân bod eu presenoldeb mewn tanau gwair yn golygu nad oedden nhw ar gael i ymateb i danau brys eraill.